Rhif y ddeiseb: P-06-1169

Teitl y ddeiseb: Gadewch i ddinasyddion Cymru bleidleisio ar gyfyngiadau symud.

Geiriad y ddeiseb:

Rwy'n credu y dylai pobl Cymru gael dweud eu dweud ynglŷn â sut y dylid ymdrin â'r mater.

Enghraifft

Cyfyngiadau llawn

Cyfyngiadau rhannol

Dim cyfyngiadau a masgiau’n ddewisol

Mae'n effeithio ar fywydau pawb, felly dylai pawb gael dweud ei ddweud.


1.     Cefndir: Y cyfyngiadau

Er mis Mawrth 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfyngiadauar fywydau pobl Cymru er mwyn rheoli effaith pandemig COVID-19, a hynny drwy wneud rheoliadau i ddiogelu iechyd o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.

Mae'r rheoliadau cyfredol yn nodi rheolau’r pedair lefel, a nodir yn eu tro gan Lywodraeth Cymru yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws, a’r rhain yn amrywio o ofyniad i aros gartref o dan Lefel 4 i gyfyngiadau ar gynulliadau a digwyddiadau o dan Lefel 1. Maent hefyd yn pennu rheolau sy'n berthnasol i bob lefel rhybudd, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i bobl wisgo gorchuddion wyneb mewn sefyllfaoedd a lleoedd penodol.

Mae'r rheoliadau wedi cael eu diwygio'n aml i ystyried newidiadau yn ystod y pandemig.

2.     Cymeradwyo'r cyfyngiadau

I wneud rheoliadau diogelu iechyd mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r weithdrefn frys a nodir yn Adran 45R o’r Ddeddf. O dan y weithdrefn hon mae modd gwneud rheoliadau heb i ddrafft gael ei osod gerbron y Senedd na’i gymeradwyo ganddi, os yw'r sawl sy'n eu gwneud yn datgan ei fod 'o'r farn, gan fod brys, bod angen’ gwneud hyn. 

Rhaid i reoliadau o'r fath gael eu cymeradwyo gan y Senedd cyn pen 28 diwrnod. Gellir ymestyn yr amser hwn am bedwar diwrnod neu’n hwy yn achos diddymiad neu doriad. Os na chymeradwyir y rheoliadau o fewn yr amser hwnnw, byddant yn peidio â chael effaith. Yr enw ar hyn yw’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.

Ar ôl i'r rheoliadau gael eu gwneud, fe'u gosodir gerbron y Senedd. Mae Pwyllgor yn y Senedd yn trafod y rheoliadau ac yn cyflwyno adroddiad arnynt, gan dynnu sylw at faterion o arwyddocâd cyfreithiol, gwleidyddol neu o ran polisi cyhoeddus. Yna bydd Aelodau o'r Senedd yn pleidleisio ar y rheoliadau, gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol a nodir yn Rheolau Sefydlog. Mae adroddiadau pwyllgor a chofnodion o bleidleisiau a gynhaliwyd ar y rheoliadau yn ystod y Bumed Senedd a’r Chweched Senedd yn cael eu cyhoeddi ar-lein. Nid yw'r Senedd wedi pleidleisio i wrthod unrhyw reoliadau diogelu iechyd yn ystod y pandemig.

Mae rhai seneddwyr wedi codi pryderon ynghylch defnyddio'r weithdrefn frys i osod cyfyngiadau symud. Mewn cyfarfod o Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Senedd ar 8 Mehefin 2020, gofynnodd Suzy Davies AS i Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd bryd hynny am i reoliadau cadarnhaol ‘gwnaed’ gael eu dwyn i sylw'r Senedd yn fuanach ar ôl iddynt gael eu gwneud, neu i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft gael ei defnyddio yn lle hynny. Byddai'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft yn caniatáu i'r Aelodau bleidleisio ar y rheoliadau cyn iddynt ddod i rym. Dywedodd y Gweinidog Iechyd: 

The Government is making use of the legitimate ways to introduce regulations in the extraordinary times that we live in and the made affirmative process is there for exactly circumstances like these, where extraordinary steps need to be taken at a level and a speed that makes sense for the public that we serve, and that's the way the Government will continue to exercise our responsibilities with and for the people of Wales.

Yn San Steffan, mae Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi wedi dadlau bod defnydd Llywodraeth y DU o'r un weithdrefn frys o dan y Ddeddf i wneud rheoliadau cyfyngiadau symud yn Lloegr yn cyfyngu ar atebolrwydd y Llywodraeth i'r Senedd a’i fod yn cyfyngu'n sylweddol ar graffu seneddol. Dywedodd y dylai Llywodraeth y DU gynnal dadl seneddol a phleidlais ar y rheoliadau cyn iddynt ddod i rym lle bynnag y bo modd.

3.     Cynnal pleidlais gyhoeddus ar y cyfyngiadau

Mae adran 64 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006yn darparu y caiff Llywodraeth Cymru gynnal pleidlais ar draws Cymru gyfan, neu mewn unrhyw rannau ohoni, at ddibenion cael barn y rhai sy’n cael pleidleisio ynghylch a ddylid neu sut y dylid arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Gweinidogion Cymru.

Gellid defnyddio’r pŵer hwn i gynnal arolwg barn i ganfod barn pobl am sut y dylai Gweinidogion Cymru fwrw ymlaen gyda’r cyfyngiadau symud.

Byddai pleidlais o'r fath yn rhoi llais i bobl Cymru o ran beth, yn eu barn nhw, yw’r ffordd orau o drin y pandemig wrth symud ymlaen.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r briffiau hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.